y deuai'r Eneth Deg Benfelen heibio. Ond gofalodd y tro hwn roddi ei hen esgidiau am ei draed.
Pwy a welai'n dyfod yn y pellter ond hen wraig mewn pais a betgwn, a blwch mawr o dan ei chesail. Pan ddaeth Dafydd ati, safodd yr hen wraig, gwenodd arno, a gofyn a gaffai hi ddywedyd ei ffortun. Dychrynodd Dafydd braidd, ond o syllu arni credai y dylai ei hadnabod. Cododd hithau liain oddiar ei blwch a chofiodd yntau hi ar unwaith. Hen Fenyw Fach Cydweli Yn Gwerthu Losin Du,—dyna pwy oedd. A deuai heibio i'r ardal yr adeg hon ar y flwyddyn. Gofynnodd Dafydd iddi am ddimeiwerth o losin du. Edrychodd yr hen wraig yn graff arno. Cyfrifodd un losin ar ddeg i'w gosod yn ei law,—
"Aros di," ebe hi'n ddireidus, wedi eu cyfrif, "mi wn i 'n iawn i ble y mae arnat ti eisiau mynd, dyna ddangos y medraf ddywedyd ffortun. A dyma i ti ddau losin arall er mwyn lwc, ond paid â dywedyd wrth neb fy mod wedi rhoddi triarddeg i ti."
Ac aeth yn ei blaen dan chwerthin.
Cyrhaeddodd Dafydd y gamfa, ac y mae'n rhaid ei fod wedi cysgu tipyn, canys y peth nesaf a glywai oedd pesychiad ysgafn yn ei ymyl, ac yntau'n meddwl ei fod wedi gwylio'n fanwl. A dyna lle'r oedd yr Eneth Deg Benfelen, â basged ar ei braich.
Edrych braidd yn sur a wnaeth arno ar y dechreu. Ond wedi iddo esbonio'r peth rhyfedd a ddigwyddodd iddo, a chynnyg losin du iddi, daeth ati'i hun a dechreu gwenu. Canys yr oedd yn y cyflwr meddwl hwnnw a'i gwnai i goelio popeth a ddywedai Dafydd wrthi. Pan gyfeiriodd Dafydd at ei esgidiau, edrychodd hithau arnynt, a chofiodd eiriau ei mam ar y funud,—