"Fy ngeneth i," ebr ei mam wrthi lawer gwaith, "os byth y gweli ddyn wedi'i wisgo'n smart ond ag esgidiau gwael ganddo, nid oes lawer yn hwnnw; ond os gweli ddyn ag esgidiau da, er i'w siwt fod yn wael, dyna'r dyn iti."
Syllodd ar ei esgidiau am ennyd, â'i llygaid fel afalau. Yna cododd ei thrwyn i'r awyr ac aeth ymaith heb ddywedyd gair.
Edrychodd Dafydd yn hurt arni'n mynd o'r golwg, yna trodd ar ei sawdl ac aeth adref i dorri'i galon. Eisteddodd yn ei gongl am dridiau i ochneidio a chnoi ei ewinedd, heb gymryd na bwyd na diod. Yn hollol sydyn gloywodd ei wyneb. Cododd a gwisgodd amdano i'r dim. Rhoddodd ei hen esgidiau am ei draed. Lapiodd ei esgidiau newydd a'u gosod dan ei gesail, a chychwyn am y gamfa. Wedi cyrraedd, rhoddodd ei esgidiau newydd am ei draed, a chuddio'r hen rai yn y gwrych. Ymhen yr hwyr a'r rhawg gwelodd yr Eneth Deg Benfelen yn dyfod, â phiseraid o laeth ganddi. Y mae'n rhaid ei bod yn dyfod y ffordd hon ar ryw neges neu'i gilydd bob nos," meddyliai Dafydd. Pan welodd hi ef, aeth i'w basio heb ddywedyd dim, ond digwyddodd edrych ar ei draed, a siriolodd trwyddi, a dechreu ymgomio ag ef, a gwenu arno.
"Y mae hi'n braf iawn," ebe hi.
"Ydyw'n braf iawn," ebe Dafydd, neu hynny a ddymunai ddywedyd. Eithr, er ei ddychryn, gwelai fod ei eiriau'n dyfod o chwith, ac mai'r hyn a ddywedodd oedd,―
"Nwai farb n'wydy."
Edrychodd yr eneth yn syn arno, gan feddwl ei bod wedi ei gamddeall.