Tudalen:Hen Gymeriadau Dolgellau.pdf/5

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

elyniaeth oedd yn corddi y wlad y pryd hwnnw yn erbyn Napoleon Bonaparte, neu fel y galwent ef yn ddigon cartrefol y pryd hwn, yr hen Boni." Yr oedd uchelgais diderfyn Napoleon i orchfygu cyfandir Ewrop y fath nes creu arswyd ar y cenhedloedd, a blynyddoedd ofnadwy oedd y deuddeng mlynedd rhwng 1803 a 1815, ac erbyn 1808 yr oedd Napoleon bron yn feistr ar yr oll o gyfandir Ewrop. Ond yn y flwyddyn olaf a enwyd, y mae yr hyn a alwn yn Rhyfel y Gorynys yn dechreu, a'r Ffrancod yn cael eu trechu yn Rolica, a therfynwyd y cadymgyrch cyntaf. Y flwyddyn ddilynol dechreuwyd yr ail gadymgyrch, a gorchfygwyd y Ffrancod yn Talavera. Dwy flynedd wedi hyn ail ddechreuodd yr ymladd, ac yr oedd Risiart Thomas yn y cadymgyrch hwn, a pharhaodd yn y Gorynys yn Spaen hyd nes i Napoleon roddi i fyny, am y tro. Yr oedd yr hen frawd wedi bod yn yr ymladdfeydd poethaf yn y rhyfel hwn, gan y gwelid ar bars ei fedal yr enwau Badajoz a Salamanca: ac y mae enwau brwydrau gwaedlyd Talavera, Albuera, Badajoz, a Salamanca ar faneri rhyfel y Royal Welsh Fusiliers hyd y dydd hwn, yr hyn sydd yn profi fod y gatrawd Gymreig wedi ar ddangos ei hun yn un o'r rhai dewraf yn y cadymgyrchoedd gwaedlyd hyn; ac nid y distadlaf yn y "thin red line" oedd Corporal Rhisiart Thomas, os byddech mor fwyn a chredu ei version ef o'r hanes. Rhyw "second Bill Adams" oedd Rhisiart Thomas, a chlywais y byddai'n adrodd yr hanes yn debyg i hyn,— "Yr o'n i a Duwc Wellinton yn ffrindia mawr. Ac os oedd eisia gneyd rhwbath mawr byddai yn gweiddi arna i ac yn galw,—'Cym hiar, Die Thomas, I want iw to fetch hay for the horses.' 'Ol-reit, syr,' meddwn innau. 'Take as many men as you like, Dick, but don't forget the hay. A ffwr a mi, a lot o soldiars o dan fy ngofol, ac yn mynd at ffarm, ac yn deyd wrth y soldiars oedd o dan fy ngofol, Hei on, lads, cart the hay.' Ond mi ddoth 'na Ffrensman ata i ac yn y mwgwth i, ac yn deyd na chawswn i mo'r gwair. Heb ddim lol, dyma nghledda i allan, a'i ben o i ffwr mewn chwinc, ac un arall, ac un arall i chi... A dyma ni i'r ciamp, a digon o wair gennon ni. Ond y bore dyma fi gôl, a rhywun yn deyd,— The Duke want to see you, Richard Thomas.' Dyma fi yn gneyd fy hun mor smart ag a allwn i, ac yn mynd at y Duke. 'Holo, Dic,' ebai, what is this I hear about you?' 'What, sir?' ebra finna. 'Wel, you killed 3 or 4 Frenchmen yesterday for refusing you some hay. You must keep your temper, or else I must fight the whole of Europe because of you, Dick Thomas. Byddai yr hen frawd, ar bob cyntaf o Fawrth, a'i genhinen hir yn ei het, a'i fedal a'i dri bar ar ei fynwes, mor benuchel â neb ar y stryd. A phwy a warafunai iddo? Yr oedd yn deilwng fab gwladgarwch Cymru ar ddygwyl Dewi Sant.

MEURIG EBRILL, neu Morris Dafydd, oedd gymeriad nodedig yn ei ddydd ar gyfrif ei barodrwydd barddonol, ac ar gyfrif ei ddull o fyw. Saer coed ydoedd wrth ei alwedigaeth. Rhyw Rip Van Winkle ydoedd. Aeth i'w wely un noswaith, a chododd o ddim oddyno hyd derfyn saith mlynedd. Cododd, a chyhoeddodd lyfr o'i weithiau, o'r enw "Diliau Meirion," a cherddodd y wlad o'i phenbwygilydd, a gwerthodd filoedd o hono. Cafodd flas ar ysgrifennu a chyhoeddodd hanes ei deithiau; ac ar ol hynny aeth i'w wely drachefn, a chododd o ddim oddiyno hyd nes y bu farw yn 1861, yn 81 mlwydd oed. Yr oedd ei sel fel Anibynwr yn gryf, a gwae y neb a feiddiai ddweyd gair yn erbyn Independia, ac yn enwedig yn erbyn Caledfryn. Yr oedd Caledfryn i Meurig yn fod uwchddaearol bron. Pan oedd y diweddar Mr. Owen Rees yn is olygydd yr Amserau yn Liverpool, ysgrifenodd erthygl gondemniol anghyffredin yn erbyn Caledfryn ac arweinwyr Anibynnol eraill, ynghylch rhyw sen a roddodd y gwyr hynny i'r Methodistiaid,—yr adeg pan oedd "partiol farn sectyddol" wedi meddiannu y wlad o benbwygilydd; a daeth Meurig allan i'r ymosod, a gwnaeth gadwen o englynion—ei arfau tân ef—yn erbyn Mr. Owen Rees. Ond buasai yn well i'r hen frawd beidio; oherwydd nid gwr oedd y diweddar Owen Rees i'w ddychrynu gan swn cacynen mewn bys coch, a rhoddodd dose lled arw i'r hen fardd; a rhywun yn gofyn iddo oedd o ddim am ei ateb, just o ran tipyn o gywreinrwydd,— 'Nag ydw i," meddai, wedi sobri tipyn,—

Rhyw afiach sothach rhy sal—yw croesder
I'r Cristion i'w gynnal;
Y dyn da nid yw'n dial,
Dywed ef mai Duw a dâl."