Tudalen:Hen Gymeriadau Dolgellau.pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhagorol, a byddai eu henwau Lladinaidd, —megis "polyprium dryopteris", "Osmunda regalia," y "polydun vulgaris," &c.,—yn cael eu harfer ganddo fel y gwynt, a mwy na thebyg y byddai termau nad oeddynt Roeg, Lladin, na Hebraeg, yn cael eu defnyddio ganddo, OS na wyddai pa beth oedd yr enw proffeswrol gwirioneddol. Yr oedd yn meddu ar gryn dipyn o ddoniolwch anymwybodol iddo ei hun. Un tro aeth a boneddwr i fyny i'r Gader, ac i bysgota, yn naill ai Llyn y Gader, y Gafr, neu yr Aran, ac er mwyn difyrru ei gwsmer ebrai,—"Two years ago, syr, a gentleman that was staying in the Lion came to the pool to fish, and somehow, syr, he lost his diamond ring whilst fishing. Last year, syr, he came again and fished in the same pool, and caught a nice trout; and when they opened the fish to cook, what do you think they found inside ?"

"The diamond ring, I suppose," meddai y boneddwr.

"No, syr, only the guts!"

Mae yn debyg na cherddodd dwy goes fwy mewn oes gymharol ferr na choesau Robert Puw y Guide.

SHANI'R ODYN.—Hen gymeriad adnabyddus iawn oedd hon yn y fro tua han. ner can mlynedd yn ol. Byddai yn rhywle yn crymowta pob dydd ac yn ennill, neu yn hytrach yn cael ei thamaid, drwy gardota a gwerthu cathod. Yr oedd yn byw yn yr hen benty, sydd wedi myned a'i ben iddo, y gwelir ei olion wrth ochr y ffordd sydd yn arwain o dan y Pentre ar y ffordd yr elych at Nannau o Lanelltyd. Byddai yn cael achles a chardod yn aml yn Nannau gan yr Hen Syr Robert : ac un tro yr oedd wedi gwledda'n drwm yn Nannau ar rywbeth cryfach na thê, ac wrth ddod oddiyno collodd ei ffordd. Mor bwysig oedd cyfeiliornad Shani'r Odyn fel y bu i ryw fardd gyfansoddi penillion ar yr anffawd, a bu ar lafar gwlad am ugeiniau o flynyddoedd. Dyma un o'r penillion,—

"Sheni'r Odyn wrth fynd o Nanna
Gollodd y ffordd wrth ddwad adra;
Trodd i lawr i Lawr Dolsera
Yn lle y llwybyr at y Pentra."


JOHN EVANS Y CRIWR.—"Swallow" ydoedd yr enw yr adnabyddid ef wrtho, a meddiennid ef gan ddawn neillduol pan yn cyhoeddi gyda'r gloch. Dyn glandeg ydoedd, ac yn meddu ar physiognomy oedd ar unwaith yn eich taro fel un yn meddu ar individuality. Y tebygaf un a welais i iddo oedd Humphrey Williams Ffestiniog, yr hen bregethwr Methodist a alwai y diafol bob amser yn Black Prince. Meddai John Evans wyneb glân, dau lygaid glâs, a genau yn bradychu llawer o arabedd, ac felly yr oedd. Gadewch i ni ei glywed yn cyhoeddi rhyw newydd yn y Lawnt ryw fore; ar ol rhoddi tair round ar y gloch, chwedl yntau, dechreuai gyda phesychiad awgrymiadol,—

"Chwi drigolion y Lawnt, a'r rhai ydych yn preswylio yn y Twr Tewdws, clustymwrandewch â'm geiriau: fe berwyd i mi eich hysbysu un ac oll fod ein hen gyfaill Wmffra Harlach wedi talu ymweliad a'n treflan just yrwan, a'i fod ef a'i drol ar y stryt fawr yn gwerthu penwaig fresh, newydd ddwad o'r môr mawr, ac yn eu gwerthu yn ol deg am chwech, neu bump am dair. God save the Queen."

Ond ar ben y garreg fach ar ganol y stryd y byddai ei bregeth fawr, yn enwedig os gwelai rywun yn craffu ac mewn agwedd i wrando, ac yn fwy arbennig os byddai y neb fyddai wedi rhoi yr ordors iddo; ac fel hyn y clodforai y penwaig,— Y maent mor loew a swllt na wariwyd mohono erioed, ac mor ffres fel yr oedd yn anodd i'n cyfaill Wmffra eu cadw nhw yn y casg wrth ddwad dros bont Llanelltyd, gan eu bod yn gweled eu chances i fynd yn i hola i'r môr."

Dywedir ei fod wedi bod yn camu o'r naill bentan i'r llall sydd i'w gweled ar ben y clochdy, a hynny pan nad oedd yn rhyw Good Templar mawr.


OWEN PARRY Y LLIFIWR.—Dyma un o drindod o hen gymeriadau y dref, y rhai oedd bob amser gyda'u gilydd. Y ddau arall oedd Owen Dafydd Bacan ac Edward Robert. Yr oedd Owen Parry yn enwog iawn ar gyfrif tri pheth,—llifio cordiau, dadlwytho y wagen fawr, a ffeirio watches. Do, mi lifiodd Owen Parry filoedd o droedfeddi o gordiau, a thynnodd gannoedd o dunelli ar ei ol gyda'i dryc, a ffeiriodd ugeiniau o watches. 'Dallsa fo ddim diodde gweld watch noblach na'i gilydd heb ofyn Ffeiri di, ngwas i?" Am Owen Dafydd a'r Hen Local, o anwyl barch, gallaswn eich cadw am amser hir yn ail adrodd ei hanes ef ei hun ac Owen Dafydd. Ond gadawn hwy heno.