Tudalen:Hen Gymeriadau Dolgellau.pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

BARDD ODYN.—Dyma un o'r special creations eto. Crydd oedd John Puw wrth ei alwedigaeth, a meddai gryn feddwl o hono ei hun fel bardd. Yr oedd rhywbeth ynddo; ond yr hyn oedd yn llesteirio ei lwyddiant mwyaf ydoedd ei gyffredinedd; a'r drwg oedd na wyddai hynny. Yr oedd yn y gystadleuaeth ar y "Fodrwy Briodasol" yn Eisteddfod Aberystwyth yn 1865, ac yr oedd yn meddwl cymaint o'i gyfansoddiad fel yr acth ef a Chati Puw, ei wraig, yno i 'nol y wobr,—'doedd dim dowt. Ond pan welodd ferch ieuanc yn myned i fyny i 'nol y wobr, dyma fo yn dweyd yn ddigon uchel i bawb o'i ddeutu ei glywed,—

"Tyd odd'ma, Cati, 'does yma ddim chware teg i gial yn y fan yma,—rhoi gwobr i ryw hogan fel yna!"

Yr "hogan," fel y gwyddoch, oedd Cranogwen. Ces stori dda gan fy chum Ioan Parri am yr hen frawd. Yr oedd Band of Hope y Capel Mawr mewn bri uchel tua'r 60's, a byddai bechgyn pob enwad yn ei fynychu, a byddent yn adrodd penhillion yn gyhoeddus yno, ac fe ddyliwn fod Tom yn eiddigeddus o rywrai oedd yn cael penhillion gan rywun, ac yntau yn amddifad o'r luxury hwnnw; ac yn yr argyfwng yma y mae John Puw yn gofyn i Tom am iddo geisio gan ei dad, Hywel Parri, roi benthyg pren troed o ryw faint neu gilydd, ac y mae Tom yn addo, ar yr amod i John Puw wneyd pennill iddo i fyn'd i'r Band of Hope y Capel Mawr. "G'naf, machgian i," meddai. A dyma y pennill,——

"Pan fydd syched arna i'n dod.
Mi yfaf ddiod Adda;
Caf hwnnw'n rhad, gyfeillion llon,
Yn Ffynnon y Plasucha;
A chwithau, pobol y Capal Mawr,
Mae i chwi fawr lawenydd
Ond i chwi fyned gyda brys
I Ffynnon Morus Dafydd."

BETI DAFIS.—Dyma Local Government Board Dolgellau yn y 40's a'r 50's. Yr oedd yn byw ym Mhen Ucha'r Dre. Yr oedd o deulu parchus, ac yn enwog ar gyfrif ei synwyr crvf. Yr oedd yn chwaer i John Richards, Pencoed, Llanfihangel, yr hwn oedd ffermwr clyd a pharchus. Felly hithau, yr oedd ganddi "geiniog" ac ar gyfrif hynny feallai fod ei hofn ar ddosbarth neillduol o'r trigolion yn fwy na phe buasai yn llai cyffredin. Nid ofnai wreng na bonedd, os oedd hawliau neu les y cyhoedd yn y cwestiwn. Os troseddai ungwr, waeth pwy, yr oedd Beti Dafis yn barod a'i dedfryd. Yr oedd ganddi ei charchar ei hun, ac iddo y dymchwelai y plant drygionus heb na chwêst na rhaith gwlad, ond ei digest of laws hi ei hun. Beti Dafis a fynnodd fur oddeutu y Ffynnon Fair, i'r hon ffynnon y cyrchai llawer i ymdrochi, ac i'r hon ffynnon y priodolid llawer o rinweddau iachaol. Trueni na chawsai ei hysbryd ddod yma am spel eto, a dychryn yr Urban District Council i farwolaeth, i edrych a oes dim chance iddo gael adgyfodiad gwell.


GRUFFYDD TUDUR.—Mae yn debyg na fu yr un cymeriad mwy adnabyddus yn y dref na Gruffydd Tudur. Saer a cherfiwr coed ydoedd, a rhagorol iawn ydoedd yn ei alwedigaeth. Ond hwyrach mai nid ar gyfrif hynny yr oedd yr hen frawd enwocaf o lawer, ond ar gyfrif ei ddireidi, ei wit, a'i natur dda. Dyn a thipyn o drwch ydoedd o ran ei gorff, natur cadw ei "ben yn ei blu," ei gerddediad yn ysgafn ond nid yn gyflym, a'i lygaid yn llochesu mewn sockets yn cael eu gwarchod gan aeliau trymion. Gwisgai het silc—neu yn hytrach wedi bod o'r defnydd hwnnw; a siaradai yn araf a lled ddwfn, gan bwyso ei eiriau a'i frawddegau. Dywedir llawer o straeon digrif am dano o dro i dro, rhai yn wir, a lliaws, o bosibl, heb fod felly. Yr oedd wedi treulio rhan o'i oes yn Lloegr, ond Dolgellau gafodd y rhan fwyaf o'i oes. Pe symiai un nodwedd cymeriad Gruffydd Tudur mewn un gair, diameu mai y gair Saesneg, neu Ffrench, os mynwch, diplomat fyddai hwnnw, sef yw hynny mewn iaith blaen—un yn cael ei ffordd heb fod yn cymeryd arno ei cheisio. Cymerer un esiampl o liaws. Yr oedd hen wr lled barchus a da allan wedi marw, yr hwn oedd yn berthynas i Gruffydd Tudur, ar ol yr hwn y disgwyliai y byddai wedi ei gofio yn ei ewyllys. Ond yr oedd yno berthynasau eraill wedi bod yn gweini ar yr hen wr, a'r rhai hynny oedd yn rhoddi yr ordor am yr arch. Gwnaed yr arch, a chladdwyd y marw, ac aeth y perthynasau i glywed cynwys yr ewyllys ar ol y gladdedigaeth, a Griffith Tudur yn eu plith, a chafwyd fod y trancedig wedi gadael yr oll o'i eiddo i'r perthynasau ag oedd wedi bod yn gweini arno, a dim i Tudur. "Wel, Guto," meddai y cefnder, "yr wyt wedi clywed yr