Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y ffenestr fel pelen o fagnel, gan fyned heibio i ben y pregethwr, ac yn disgyn ar ben yr hen gwpwrdd press wrth y mur cyferbyniol. "Peidiwch a chyffroi," meddai y pregethwr, "mae yr Hwn sydd yn gwneyd ffordd i fellt y taranau yn gwneyd ffordd hefyd i geryg yr erlidwyr," ac heb un arwydd o ofn efe aeth yn mlaen gyda'i bregeth, a chyn y diwedd cafwyd profion amlwg fod Duw gydag ef.

Fel hyn yn raddol mae ei gylchdeithiau yn lluosogi ac eangu. Yr oedd ganddo bump neu chwech o leoedd yn y Sir ei hun, a nifer gyffelyb yn Sir Drefaldwyn, ac ymwelai weithiau & Sir Gaernarfon. Cyflawnai ei gylchdeithiau pregethwrol yn rheolaidd yn drimisol, pryd y dychwelai adref fel llong ar ol mordaith i'r porthladd, ac wedi cael ychydig o amser i orphwys a pharatoi, cychwynai drachefn yn yspryd ei Feistr Dwyfol i gyhoeddi ei genadwri bwysig. Ni adawai i ddim ei atal ar ei deithiau, a rhybuddiai a chynghorai yn daer mewn amser ac allan o amser. Wrth