Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd.djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyda hwy a'u cysuro, ond hefyd i weini iddynt gyda gofal a thynerwch nurse. Efe a fawrhai y fraint o gael cyflawni y gwasanaeth isaf iddynt, a rhoddai brawf amlwg iddynt ei fod yn gwneyd eu cystudd hwy yn gystudd iddo ei hun. Mae efe gyda llaw dyner yn esmwythau eu gobenyddiau, yn sychu eu chwys ac yn rhoddi diod iddynt, fel y rhyfeddent fod boneddwr o'i ddysg- eidiaeth a'i sefyllfa ef yn dangos y fath ostyngeiddrwydd a hunanymwadiad. Nis gallant beidio teimlo fod Duw, Gwared- wr, a nefoedd yn dyfod i'w hymyl ynddo ef, a bendithient Dduw gyda dagrau o ddiolchgarwch a llawenydd am ei ymweliadau!

Pan ar ei deithiau yn nghanol oerder y gauaf, os dygwyddai gyfarfod â rhai yn dyoddef oddiwrth erwinder yr hin, efe a ddiosgai ranau o'i ddillad i'w rhoddi iddynt, ar draul peryglu ei iechyd ei hun. Dacw efe un diwrnod yn cyfarfod hen ŵr gwar grymedig wrth ei ddwy ffon, llwm ei wisg, ac yn crynu gan anwyd. Wedi ei gyfarch