Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn siriol a charedig fel arfer, a chyfeirio at doster y tywydd.—

"Ydi'n wir," ebe yr hen ŵr, "ac 'rydw i'n gorfod teimlo'i bod hi'n oer; a dydw i ddim yn medru cerdded i gynhesu fel y byddwn i."

Nis gallasai efe fyned heibio iddo ef mwy y nag y gallasai Iesu o Nazareth fyned heibio i Bartimeus ddall wrth ymyl y ffordd heb dosturio wrtho. Disgynodd oddiar ei farch, ac er syndod i'r hen ŵr, tynodd ei gôb fawr a gosododd hi am dano, gan ddweyd,—

"Cym'rwch hon, mae gen i un eto, cha'i ddim anwyd!" Mae yn ei helpio i'w botymu, yn rhoddi darn o arian yn ei law, ac yn myned yn mlaen gan ddymuno bendith Duw iddo. Diolchodd yr hen ŵr yn gynhes iddo, a safodd ar y ffordd a'i bwysau ar ei ddwy ffon, gan edrych arno gyda llygaid llawn dagrau, nes iddo fyned o'r golwg. Gofynai iddo ei hun mewn syndod parchedig, pa un ai dyn ynteu angel oedd wedi ei gyfarfod!

Yn y dyddiau erledigaethus hyny der-