Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

byniai canlynwyr y Gwaredwr nodded ac ymgeledd bob amser yn Mronyclydwr. Mae hanes am James Owen, Croesoswallt, yr hwn oedd gyfaill mynwesol i Hugh Owen, wedi dyoddef naw mis o garchariad yn Sir Gaernarfon, yn cael ei ddwyn yno ar hyd y nos, lle y cafodd y derbyniad mwyaf siriol a chroesawgar. Addawai iddo ei hun ychydig o seibiant yno gyda'i anwyl gyfaill ar ol ei garchariad, ond yn lle hyny cymerwyd ef yn glaf o glefyd peryglus, ac yr oedd ei letywr caredig, ac eraill o'r teulu, yn glaf yr un pryd, fel yr ymddengys o'r un afiechyd. Ofnid y buasai i'r clefyd brofi yn angeuol i James Owen, ond o diriondeb yr Arglwydd, efe a drodd ar wella. Dyoddefai y ddau mewn yspryd teilwng o'u Duw a'u Gwaredwr, ac yn ystod eu cystudd anfonent yn fynych genadwri at eu gilydd o'u claf-welyau. Un diwrnod dywedodd Hugh Owen fod yn rhaid iddo gael cyfodi i fyned i weled ei anwyl gyfaill. Aeth at y gwely yn llesg a gwan, plygodd uwchben ei gydymaith mewn cystudd, ac ymaflodd