Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi i ddeddf unffurfiaeth ddyfod i rym, pasiwyd deddf ormesol arall, yr hon a elwid Deddf y Ty Cwrdd, amcan yr hon oedd rhoddi pen llwyr a hollol ar Anghydffurfiaeth yn y Dywysogaeth. Gwnai y ddeddf hon yn anghyfreithlawn i fwy na phump o bersonau uwchlaw un-ar-bymtheg oed i gyfarfod gyda theulu mewn addoliad teuluaidd, neu gymdeithasol. Y gosb ar bregethwr am y troseddiad cyntaf ohoni oedd tri mis o garchariad, neu dalu dirwy o bum' punt; am yr ail droseddiad chwe' mis o garchariad, neu ddirwy o ddeg punt, ac am y trydedd alltudiaeth dros oes, neu ddirwy o gan' punt. Cosbid yn gyffelyb y rhai agorent ddrysau eu tai, neu adeiladau allan, i gynal gwasanaeth crefyddol; ac os ceid gwragedd priod yn y cyfryw gyfarfodydd, carcherid hwy am ddeuddeng mis, os na thalai eu gwŷr ddwy bunt am eu rhyddhad. Meddai un ynad heddwch yn unig awdurdod i weinyddu y gyfraith, yr hwn hefyd feddai hawl i weithredu heb ddyfarniad rheithwyr, ar dystiolaeth noeth un