Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd.djvu/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

achwynwr. Mewn canlyniad i basiad y ddeddf greulawn ac anghyfiawn hon, torid i mewn i dai, cymerid meddiant o anifeiliaid a nwyddau, a llenwid carcharau y gwahanol siroedd gan y rhai na fuasent euog o un camymddygiad, amgen yr un o gydgyfarfod i addoli Duw yn ol argyhoeddiad eu cydwybod! Nid oedd y gyfraith i fod mewn grym ond am dair blynedd, gan y dysgwylid y byddai dilead llwyr ar ymneillduaeth erbyn hyny.

Ond llwyddo yr oedd crefydd er gwaethaf pob ystryw gynllunid yn ei herbyn, fel y barnwyd yn angenrheidiol i basio cyfraith ormesol arall yn y flwyddyn 1665, sef Deddfy Pum' Milldir, amcan yr hon oedd rhwymo gweinidogion anghydffurfiol drwy lŵ i beidio cynyg unrhyw gyfnewidiad yn yr Eglwys na'r Wladwriaeth, ac a orfodai y neb a wrthodai gymeryd yr ymrwymiad i beidio byw, na dyfod yn nês na phum' milldir i unrhyw fwrdeisdref, dinas, plwyf neu le y buasai yn gwasanaethu yn flaenorol fel rheithior, periglor neu ddarlithydd, o