Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd.djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dan ddirwy o ddeg punt; ac ni chaniateid iddo fod yn athraw mewn ysgol na chymeryd byrddwyr i'w dŷ i'w dysgu. Ond profodd y ddeddf hon eto yn aneffeithiol i gyrhaedd yr amcan, oblegid llechai y pregethwyr yn ystod y dydd mewn manau dirgel, yn mhell oddiwrth eu deadelloedd, a theithient weithiau ddegau o filldiroedd ar feirch yn y nos i'w cyfarfod mewn coedwigoedd, cysgod creigiau, ac ogofeydd, i bregethu yr Efengyl a gweinyddu yr ordinhadau iddynt, ac yna dychwelent cyn toriad y wawr i'w cuddfanau rhag i'r erlidwyr eu cymeryd i'r ddalfa.

Yn 1669 adnewyddwyd Deddf y Tŷ Cwrdd, yr hon yn ei ffurf newydd a elwid yn Deddf y Gwrandawyr, am ei bod yn dirwyo am fyned i wrandaw yr Efengyl yn cael ei phregethu. Am y troseddiad cyntaf o fyned i wrandaw ar weinidog ymneillduol yn pregethu gosodid dirwy o bum' swllt, ac am yr ail deg swllt. Hefyd gosodai ddirwy o ugain punt yr un ar y pregethwr a weinyddai, a pherchenog y tŷ lle y cynhelid y gwasanaeth, a chan' punt ar yr ynad a