wrthodai weinyddu y gyfraith ar gais yr hysbysydd. Yr oedd un ran o dair o'r dirwyon hyn i fyned i'r hysbysydd, un ran o dair i'r Brenin, ac un ran o dair i'r tlodion, ond yn mhob achos bron rhanai yr hysbyswyr a'r ynadon yr ysbail rhyngddynt. Ni dderbyniai neb ond y cymeriadau iselaf y swydd waradwyddus o hysbyswyr, ond fel mae yn ofidus meddwl, yr oedd y cyfryw i'w cael bron yn mhob plwyf, a cheid rhai ynadon diegwyddor a bydol. yn ewyllysgar i gydweithredu â hwynt.
Ond er gwaethaf y cyfreithiau gorthrymus. hyn cyflawnai yr Apostol selog o Fronyclydwr, fel eraill o'r cyffelyb yspryd, ei deithiau yn rheolaidd a chyson, gan barhau i gyhoeddi ei genadwri gyda gwroldeb ac eofndra. Ni wiriwyd yn fwy effeithiol mewn cysylltiad â hanes neb erioed na'r eiddo ef y geiriau,—" Pan fyddo ffyrdd gŵr yn rhyngu bodd i'r Arglwydd, efe a bair i'w elynion fod yn heddychol âg ef."
Pan ar daith un tro yn Sir Drefaldwyn cymerwyd ef i fyny gan y swyddogion