gwladol am bregethu yn groes i'r gyfraith. Efe a gondemniwyd ac a anfonwyd i garchar Castell Powys, neu y Castell Coch, fel y gelwid ef. Ond ni fu yno yn hir heb i'w dawelwch a'i sirioldeb nefol, ac yn arbenig ei ddawn rhyfeddol fel gweddïwr, dynu sylw neillduol Arglwydd Powys. Gallwn yn hawdd ddychymygu gweled ei gyd-garcharorion yn wylo fel plant pan yr anadlai ei enaid at Dduw mewn gweddi. Methai y gwasanaethyddion fyned heibio drws y carchar heb sefyll i wrandaw arno, ac un diwrnod mae Arglwydd Powys ei hun yn mysg ei wrandawyr, ac effeithiodd y weddi yn fawr arno. Gyda'r fath yspryd ymostyngar y cydnabyddai efe law ei Dad nefol yn yr oll a'i cyfarfyddai, ac a ddyodd- efai, a chyda'r fath daerni y gweddïai dros ei elynion a theulu dyn yn mhob cyflwr a sefyllfa, a chyda'r fath hyder yr ymddiriedai ei briod a'i blant i ofal tyner Duw! Meddianwyd ei arglwyddiaeth gan deimladau rhyfedd wrth wrandaw ar y carcharor hynaws a llariaidd yn siarad â'i Dduw fel
Tudalen:Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd.djvu/116
Gwedd