hyn! "Yn ddiddadl," ebe fe wrth ei offeiriad, "mae y dyn hwn yn Gristion cywir." Edrychai arno fel dyn Duw, ac ymddygodd tuag ato ef yn ystod y gweddill o dymor ei garchariad gyda'r tiriondeb a'r caredigrwydd mwyaf.
Pan ddaeth amser ei garchariad i fyny, ac y rhyddhawyd ef, dangosodd ei arglwyddiaeth ei fod yn teimlo y dyddordeb mwyaf ynddo. Gwelaf ef yn ei hebrwng drwy brif fynedfa y Castell, nid fel carcharor rhyddedig, ond fel tywysog. Pan yn ysgwyd dwylaw wrth ganu yn iach, diolchai Hugh Owen i'w arglwyddiaeth am ei dynerwch a'i garedigrwydd mawr iddo yn ystod ei garchariad.
"Ah!" meddai ei arglwyddiaeth, "pa beth ydyw y caredigrwydd yr ydwyf fi wedi gallu ei ddangos tuag atoch chwi o'i gymharu a'r fantais ydwyf wedi ei derbyn drwy eich presenoldeb a'ch cymdeithas! A chyn i chwi ymadael yr ydwyf am i chwi addaw dyfod ata i i'r Castell i dreulio y Nadolig bob blwyddyn." Teimlai fod ei