Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd.djvu/118

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddyfodiad yno fel carcharor Iesu Grist wedi gosod bri ac anrhydedd newydd ar yr hen Gastell enwog, fel yn gywir yr ydoedd. Cysylltiad dynion da a mawr âg adeiladau hanesyddol sydd yn gosod yr enwogrwydd uwchaf arnynt, ac yn rhoddi swyn a pheroriaeth hyd yn oed i enwau carcharau! Yr hyn sydd wedi gosod yr anrhydedd uwchaf ar Rufain, y ddinas dragywyddol, ydyw y ffaith i Apostol y Cenhedloedd ddyoddef rhwymau a selio ei dystiolaeth â'i waed ynddi. Mae enw carchar Bedford wedi myned yn enw teuluaidd drwy yr holl fyd gwareiddiedig, oblegyd i John Bunyan gael ei garcharu yno am ddeuddeng mlynedd. O enwau yr holl wŷr enwog sydd wedi gosod bri ar yr hen Gastell Coch o Cadwgan, Tywysog Powys, yr hwn ddechreuodd ei adeiladu yn y flwyddyn 1109, ac a lofruddiwyd gan ei nai, Madoc, cyn iddo ei orphen, i waered, mae enw y gwron o Fronyclydwr, yr hwn garcharwyd yno am Air Duw a thystiolaeth Iesu Grist, yn hawlio y lle uwchaf ar y rhestr. Dacw ef yn