Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gadael y Castell am ei hoff waith, gyda thân Duw yn llosgi yn ei galon, a gogoniant nefol yn disgleirio ar ei wynebpryd, gan adael ar ei ol i'r teulu rywbeth oedd o fwy gwerth na holl gyfoeth y Castell.

Dro arall, pan gartref yn Mronyclydwr am ychydig seibiant, cyn ail gychwyn i'w deithiau, un diwrnod dyna guriad awdurdodol wrth y drws. Atebwyd y drws gan y forwyn. Gwelai o'i blaen ŵr o ymddangosiad swyddogol, yr hwn a ofynai a oedd ei mheistr i mewn; yr hwn wedi iddo gael ar ddeall ei fod, a gerddai i mewn i'r tŷ, gan ofyn yn mha le yr ydoedd. Arweiniwyd ef i'r ystafell lle yr oedd Hugh Owen gyda'i Feibl agored o'i flaen yn paratoi pregethau ar gyfer ei daith. "Myfi," meddai," ydyw Is-sirydd Sir Feirionydd, ac yr wyf wedi dyfod yma i'ch cymeryd yn garcharor i Ddolgellau am dori y gyfraith drwy bregethu mewn tai anedd ar hyd a lled y wlad."

"Wel," atebai y pregethwr yn siriol a digyffro, "mae genyf gydwybod dawel nad