wyf wedi troseddu un o gyfreithiau y nefoedd drwy gyhoeddi Crist yn Waredwr i bechaduriaid. Ond nid wyf yn amheu eich awdurdod chwi i'm dwyn i garchar y Sir, ac ni chewch un drafferth i'm cymeryd i yno. Eisteddwch i lawr i orphwys ychydig, ac i gael tamaid o fwyd."
"Na," meddai y swyddog, gan ryfeddu at ei hunanfeddiant a'i dawelwch, "gwell i ni gychwyn ar unwaith, gan fod y daith, fel y gwyddoch yn mhell."
"Ni fydda i byth yn gadael cartref," ebe Hugh Owen, "heb gyflwyno fy nheulu i ofal yr Arglwydd, ac yr wyf yn hyderu y gwnewch ganiatau i mi ddarllen rhan o'r Beibl a myned i weddi."
"Nis gallaf ar un cyfrif wrthod caniatau eich cais," meddai y swyddog, "ond yr wyf yn dysgwyl y byddwch mor fyr ag y medrweh chi."
Galwyd y teulu a'r gwasanaethyddion i'r ystafell. Wedi iddynt eistedd i lawr, darllenodd Hugh Owen, mewn modd pwyllog a theimladwy, yr unfed Salm a'r ddeg a