Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

phedwar ugain: "Yr hwn sydd yn trigo yn nirgelwch y Goruchaf, a erys yn nghysgod yr Hollalluog," &c. Ar ol darllen y Salm rhoddodd y penill priodol a ganlyn allan i'w ganu:—

"Dy ras, dy nawdd, fy Nuw, I'm dod,
Sef ynot ymddiriedaf,
Nes myned heibio'r aflwydd hyn,
Dan d'edyn ymgysgodaf."


Dyblwyd y ddwy linell olaf, ac yr oedd rhyw ddwysder anarferol yn y canu mawl yn Mronyclydwr y diwrnod hwnw, yr hwn barai i'r swyddog gwladol deimlo ei fod yn mhresenoldeb rhai oeddynt yn ymddiried yn dawel yn yr Anweledig. Plygodd pawb eu gliniau yn ol arferiad y teulu, pryd y trodd ygŵr rhagorol at ei Dad nefol mewn gweddi, gan ei gyfarch gyda symlrwydd, eofndra, a hyder plentyn yn agoshau at ei dad naturiol. Diolchai yn wresog iddo am ei ofal tirion am dano ef a'i deulu, am gadw heintiau a chlefydau rhag dyfod yn agos i'w pabell. Cyflwynai ei briod a'i blant i'w ofal tadol, gan ddatgan ei hyder y byddai Efe yn aros