Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd.djvu/142

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dywededig ran a chyfran, yna yr wyf drwy hyn yn rhoddi a gwyllysio y rhan a'r gyfran perthynol iddi hi neu hwy, os yn marw felly, i'r gweddill o fy mhlant ieuangaf i'w rhanu yn gyfartal rhyng- ddynt, rhan a rhan yn gyffelyb. Yn yr amgylchiad i fy mhlant ieuangaf feirw heb blant wedi eu cenedlu yn gyfreith- lon, os amgen yr wyf yn rhoddi a gwyll- ysio eu rhan hwy, os yn meirw felly, i'w plant a genedlir yn gyfreithlon. Hefyd yr wyf yn rhoddi i fy mab, John Owen, yr haner-barth arall o fy holl ŷd, gwair a ffrwythau fy holl berllanau, y dydd Gŵyl Mihangel nesaf ar ol fy marwolaeth, i gael eu cynhauafu ganddo ef ar ei draul hollol a phriodol ei hun. Hefyd yr wyf yn rhoddi a gwyllysio i fy nywededig fab, John Owen, fy holl lyfrau, pa un bynag ai Hebraeg, Groeg, Lladin neu Saesneg, dadleuol neu eglurhaol ar y Beibl, neu Fynegeiriau i'r Ysgrythyrau Sanctaidd, ac yr wyf yn rhoddi a gwyllysio y gweddill o fy llyfrau Seisnig i fy