Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd.djvu/144

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fy ngalluogi i mewn ffydd i'w cyflwyno a'u gorchymyn yn hollol ac unig i'w ofal, arweiniad a daioni, yn gystal gyda golwg ar yr hyn y crybwyllais am dano yma, ac hefyd gyda golwg ar yr hyn ddichon ddygwydd iddynt hwy a'u hiliogaeth, hwy a minau dros byth. Ond pa fodd bynag y byddo da yn ei olwg Ef i drefnu eu hamgylchiadau allanol a bydol yma, bydded i'r oll gael eu goruwchlywodr- aethu er ei ogoniant Ef a'u ffyniant a'u dedwyddwch tragywyddol hwythau. Ac yr wyf hefyd drwy hyn yn pwyso arnynt oll yn benodol i gyflawn ddilyn yr Arglwydd eu holl ddyddiau, fel Caleb, gan eu sicrhau oddiar brofiad fy holl fywyd, os bydd iddynt wneyd felly, na fydd iddynt fethu sicrhau iddynt eu hunain yr hyn sydd oreu yma a'r hyn yn ddiamheuol genyf fydd y ffordd iddynt i fwynhau ar ol hyn drigfanau gogoniant. Hefyd yr wyf yn rhoddi a gwyllysio ugain swllt i frodyr tlodion y gynulleidfa ymneillduol yr wyf yn dal cysylltiad & hi, i gael eu talu i