Ddiaconiaid yr unrhyw, ac i gael eu rhanu ganddynt hwy, fel y byddo i'r Ar- glwydd eu cyfarwyddo. Hefyd yr wyf yn rhoddi a gwyllysio deg swllt i dlodion plwyf Llanegryn i gael eu rhanu gan fy anwyl wraig, yn ol ei doethineb. Hefyd yr wyf yn rhoddi a gwyllysio pum' swllt i fy mherthynas tlawd, Alice Prior, o'r plwyf rhagddywededig. Hefyd yr wyf yn trefnu a phenodi i'r cymunroddion hyn gael eu talu o fewn blwyddyn ar ol 'fy marwolaeth. Ac yr wyf drwy hyn. yn enwi a phenodi, cyfansoddi ac ordeinio fy nywededig anwyl wraig, a fy nywededig anwyl fab, John Owen, i fod yn gydysgutorion o hwn fy Ewyllys a fy Nhestament diweddaf. Ac yn ddiweddaf yr wyf yn ordeinio a phenodi fy anwyl gyfeillion a brodyr yn ein Harglwydd Iesu, Walter Griffiths, Edward Poole, y ddau o Lanfyllin, yn Sir Drefaldwyn, Sidanwyr, Wm. Evans, Gwanas, yn Sir ddywededig Meirionydd, a Griffith Oliver o Fachynlleth, yn Sir ddywededig Maldwyn,
Tudalen:Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd.djvu/145
Gwedd