Barcer, i fod yn arolygwyr cyflawniad hwn fy Ewyllys a fy Nhestament diweddaf. Mewn ardystiad o ba un yr wyf i hyn yma yn gosod fy llaw a fy sel, y dydd a'r flwyddyn a ysgrifenwyd uchod, Hugh Owen.' Arwyddwyd, seliwyd, cyhoeddwyd a datganwyd (mae y geiriau hyny yn briodol, Os amgen yr wyf yn rhoddi a gwyllysio ei rhan hi neu hwy os yn marw felly i'w phlant hi neu hwy wedi eu cenedlu yn gyfreithlon yn cael eu corpholi) yn ngolwg a phresenoldeb William John Edwards, Jenkin Evans.
Profwyd yr Ewyllys hon yn Esgob-lys Bangor, yn ffurf cyffredin cyfraith, ar yr 16eg dydd o Orphenaf, 1700, gan Martha Owen, gweddw y Testamentwr, ac un o'r ysgutorion enwedig oddifewn.
M. HUGHES, Cofrestrydd.
Mae yn bosibl i'r gŵr rhagorol ac ym roddgar hwn, i wasanaeth ei Dduw a'i wlad, led dybied pan yn gwneyd ei Ewyllys fod ei lafur bron ar ben, ond fel y gwelir, bu