Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD I.
BRONYCLYDWR.

Y FATH swyn a pheroriaeth sydd yn yr enw, Bronyclydwr! Saif y tŷ yn nghwr deheuol cwmwd rhwng Llwyngwril a Thywyn Meirionydd, a thua haner milldir. o lan y môr. Yn y llecyn cysgodol, tawel, a hyfryd hwn y gwelodd llygaid ein harwr oleuni gyntaf, yn y flwyddyn 1637. Mae yn un o'r llanerchau dymunol hyny a brofai yn demtasiwn gref i'r neb a enid i lawnder ynddo ac a garai esmwythyd a bywyd tawel i ddweyd gyda'r patriarch o wlad Us yn ei wynfyd,—"Byddaf farw yn fy nyth; a byddaf mor aml fy nyddiau a'r tywod."

Edrychaswn lawer gwaith ar y tŷ drwy ffenestr y trên pan yn teithio rhwng Aber-