a'i gynghorion, ac yn neillduol ei dynerwch a'i garedigrwydd. Soniwyd gyda dyddordeb ac edmygedd am ei ddoniau disglaer fel pregethwr, a rhagoriaethau uchel ei gymeriad mewn teuluoedd am flynyddoedd lawer, fel yr oeddynt yn byw yn awyrgylch adfywiol a dyrchafol ei fywyd nefol sanctaidd. Ac er fod uwchlaw dau can' mlynedd wedi myned heibio er's pan mae efe wedi huno, mae ei goffadwriaeth yn perarogli yn hyfryd a'i ddylanwad yn aros yn mywyd crefyddol a moesol y wlad hyd yr awr hon. Ac wrth edrych arno o bellder dwy ganrif, yr ydym yn gweled unoliaeth, cysondeb a harddwch ei fywyd mewn goleuni nas gallasai ei gyd- oeswyr eu gweled. O ben y bryn, y tu ol i Fronyclydwr, y ceir un o'r golygfeydd godidocaf ar Gader Idris, Craig-y-deryn a Dyffryn Dysyni, pryd y gwelir y clogwyni ysgythrog ystormydd-guredig wedi eu trawsnewid gan y goleuni porphoraidd tyner, a chadernid a thynerwch, arucheledd a theleidrwydd yn ymdoddi i'w gilydd yn unoliaeth yr olygfa anghydmarol! Yn hyn
Tudalen:Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd.djvu/160
Gwedd