Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd.djvu/162

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oliaeth. Teimlwn ei fod ef yn byw ac yn anadlu yn mywyd Natur o'm cylch, yn gwenu yn ei phrydferthion, yn persawru yn ei pheraroglau, ac yn molianu yn ei pheroriaeth. Ac wrth fyfyrio arno yn teith- io, gweddio a phregethu, teimlwn ei fod ef, mewn modd dirgelaidd, yn dyfod ataf mewn byd i'r hwn nid yw Natur ond yr wrth-ran weledig, lle mae meddwl yn cyffwrdd meddwl, calon yn cyffwrdd calon, ac yspryd yn cyffwrdd yspryd a lle y teim- lir fod Duw, Gwaredwr, bywyd, gwasanaeth a nefoedd yn un! Wrth fedd yr arwr an- farwol yr wyf yn teimlo nad ydyw Duw Dduw y rhai meirw, ond y rhai byw. Sef- yll uwchben ei fedd ysprydolodd Elen Egryn i gyfansoddi yr alar-gân doddedig a ganlyn:—

"Och athraw ardderchog! ai yma mae'th drigfa?
Rhyw syndod a'm llanwodd uwchben dy orweddfa;
Mor ddirgel y llechi! mae'r llysiau bron cuddio
Yr annedd ddiaddurn lle 'rwyt ti'n gorphwyso;
Mudanaidd yw'r tafod fu gynt yn cyhoeddi
Y ffordd i bechadur ochelyd trueni!