fwynhad wrth edrych ar yr oen yn fywyd i gyd, yn pranc-redeg a'i gynffon yn chwareu at ei famog. Ambell dro elai i làn y môr, a safai yn syn ar y graian i edrych gyda mwynhad ar y diflin donau yn cyson dreiglo tua'r làn, lle y troent yn grych ewyn i ddychwelyd gyda gwaedd yn ol i fynwes yr eigion! Wedi cael digon ar wylio y tònau, difyrai ei hun drwy gerdded ar hyd y feisdon i gasglu cregin a cheryg dwfr-gaboledig, gan lenwi ei logellau â hwy.
Mae edrych mewn dychymyg ar Hugh bach fel hyn yn difyru ei hun ar làn y môr yn consurio o flaen y meddwl ddarlun arall o hono wedi cael profiad o ddyoddef anwyd ac erlidiau oherwydd pregethu Crist yn Waredwr i'w gyd-wladwyr. Megys Gweledydd Ynys Patmos, eisteddai ar lechwedd y bryn yn ymyl y tŷ, ac wrth edrych ar y tònau yn tori ar y làn, yn y rhai y gwelai ddarlun o donau gofid mor tymestlog bywyd, ymgysurai drwy sisial wrtho ei hun,—"a'r môr nid oedd mwyach."