Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Barwn gyda'i osgordd tuag adref o'r Brawdlys. Daethant yn mlaen yn ddyogel hyd nes y cyrhaeddasant y Dugoed, pryd yr ataliwyd hwy rhag myned yn mhellach gan brenau mawrion oeddynt wedi eu cwympo ar draws y ffordd. Cyn iddynt gael munyd o amser i ystyried pa beth i'w wneyd, gwnaed y Barwn dewr yn nôd i gawod o saethau, un o ba rai a suddodd yn ei wyneb, ond mewn eiliad tynodd ef allan a thorodd e yn ddarnau. Ar hyny rhuthrodd llu o'r fileiniaid gwaedlyd arno o'r coed gyda bilwgau a gwaewffyn, a gadawsant ef yn farw ar y ffordd gyda deg-ar-hugain o archollion yn ei gorph. Amddiffynodd John Llwyd, Ceiswyn, ei fab-yn-nghyfraith, ef yn ddewr hyd y diwedd; ond er gwarth iddynt, diangodd ei osgorddwyr yn llwfr am eu heinioes pan wnaed yr ymosodiad cyntaf. Pan orweddai y Barwn yn farw ar y ffordd, rhwygodd brodyr y llangc y gwrthodwyd iddo arbediad ef mewn modd barbaraidd, a golchasant eu dwylaw yn ngwaed ei