Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD III.
BLWYDDYN FAWR EI ENEDIGAETH.

YR oedd y flwyddyn 1637, yn yr hon y ganwyd Hugh Owen, yn un neillduol yn hanes Prydain Fawr. Yr oedd Ysgotland yn ferw drwyddi mewn canlyniad i'r brenin Siarl y Cyntaf yn mhoethder ei sêl dros Esgobyddiaeth, geisio gorfodi yr Eglwys yn y wlad hono i arfer y Llyfr Gweddi newydd, yr hwn gyda'r eithriad o ychydig gyfnewidiadau, oedd yr un a'r Llyfr Gweddi Cyffredin. Penderfynwyd ei fod i gael dechreu ei ddefnyddio yn yr holl Eglwysi ar Sabboth y trydydd-ar- hugain o Orphenaf, yn y flwyddyn dan sylw. Yr oedd yn hawdd gweled yn Edinburgh fod rhywbeth anarferol i gymeryd lle y diwrnod hwnw oddiwrth y lluoedd.