Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddylifent o bob cyfeiriad i Eglwys Gadeir iol St. Giles. Yr oedd yr Esgob ac amryw o'r Cyfrin-gyngor wedi dyfod yno. Safodd y Deon i fyny yn ei wèn-wisg i ddarllen y gwasanaeth; ond cyn iddo bron gael amser i agor y Llyfr Gweddi Newydd, torodd llidiogrwydd y dorf allan fel ffrwydriad llosg-fynydd. Curent eu dwylaw, melldithient a gwaeddent,"Pab! pab! Anghrist! Llabyddiwch ef!" Ar hyny, wele ddynes gref a gwrol o'r enw Jenny Geddes yn ymaflyd yn yr ystôl ar yr hon yr eisteddai, ac yn ei thaflu gyda holl nerth ei breichiau gewynol at ben y Deon, gan waeddi,—" Filain! a ddarlleni di yr offeren yn fy Eglwys i?"

Syrthiodd y Deon o flaen nerth yr ergyd, ac fel y gallesid dysgwyl, yr oedd y lle mewn moment fel pair berwedig, ac nid heb lawer o drafferth y llwyddwyd i gael yr aflonyddwyr allan, pryd y clôwyd. y drysau ac y darllenwyd y gwasanaeth. Ond gwelodd yr awdurdodau ar unwaith mai doethaf a dyogelaf oedd peidio ymyr-