aeth â rhyddid yr Eglwysi yn y peth hwn, a daethant i'r penderfyniad mai gorchymyn prynu, ac nid defnyddio y Llyfr Gweddi yr oedd y gwys-lythyr Brenhinol. Mewn canlyniad rhoddwyd heibio ar unwaith i'w ddefnyddio. Pan glywodd y Brenin hyn ffromodd yn aruthr, ac anfonwyd gorchymyn ar unwaith fod yn rhaid adfer y llyfr. Ni wnaeth hyn ond cyffroi i wrthwynebiad mwy unol a phenderfynol yn mhob parth o'r wlad. Ffurfiwyd pwyllgorau ac anfonwyd deisebau mawrion at y Brenin i ddymuno arno alw y llyfr yn ol. Cynyrchodd gwroldeb Ysgotland yn gwrthwynebu gorchymyn y Brenin anesmwythder mawr ar y tu dehau i'r Tweed, yr hwn ddangoswyd mewn gorymdeithiau brwdfrydig. Enynodd hyn yn ddirfawr eiddigedd Laud, a thrwy ei archiad llusgwyd Prynne y dadleuwr galluog a'i gyd-bamphledwyr o flaen y Star Chamber i sefyll eu prawf fel "udgyrn gwrthryfel." Dedfrydwyd hwy i gael tori eu clustiau, eu gosod yn y gwddf-gyffion
Tudalen:Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd.djvu/33
Gwedd