Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

(pillory), a'u carcharu am eu hoes. Daeth tyrfa fawr i Gwrt y Plas i weled tori clustiau yr arwyr gwrol. Ond yr oedd y creulondeb yn ormod i'r edrychwyr beidio dangos eu hanghymeradwyaeth iddo drwy ruddfaniad dwfn a herfeiddiol a banllef daran-folltawl pan dystiodd Prynne fod y ddedfryd arno ef yn groes i'r gyfraith. Yr oedd ochrau y ffyrdd wedi eu llenwi gan filoedd o edrychwyr pan arweiniwyd hwy i'r carchar, yr hyn oedd debycach i ymdaith buddugoliaeth o faes brwydr, na thaith i garchar.

Yr un flwyddyn eisteddodd deuddeg o farnwyr am ddeuddeg diwrnod ar achos. Hampden, y boneddwr urddasol a'r aelod anrhydeddus dros Swydd Buckingham, am wrthod talu arian y llongau, y rhai yn ormesol a godai y Brenin. Ar y cyntaf nid oedd ond y porthladdoedd yn unig o dan y dreth hon, ond erbyn hyn gorfodid y deyrnas oll i'w thalu. Y ddadl fawr yn ei herbyn ydoedd, nad oedd gan y Brenin hawl i'w gosod ar y deiliaid, heb gydsyniad