Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD IV.
CYD-DYFIANT Y PLENTYN AG YSPRYD BRWYDR FAWR RHYDDID.

NID oes ar y ddaear ddim harddach na thyfiant, na thyfiant prydferthach na'r eiddo plentyn bach, yr hwn ddengys ei hun yn nheleidrwydd yr aelodau a thlysni tyner y wynebpryd. A'r dyddiau pwysicaf yn anianyddol yn hanes tyfiant y plentyn ydyw y rhai hyny pryd y mae efe yn gwneyd y defnydd cyntaf o'i draed egwan i gerdded, a'i dafod bloesg i barablu ei air cyntaf. Teimla rhieni yn hyderus y daw rhywbeth o'u plentyn wedi iddo ddechreu defnyddio ei draed a'i dafod.

Rhyw ddiwrnod, er llawenydd mawr y teulu, croesodd etifedd bach Bronyclydwr y llawr am y waith cyntaf heb gynorthwy,