Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac wrth gael ei dderbyn i freichiau tyner ei fam, pan barablodd y gair "mam" am y tro cyntaf, hi a'i cofleidiodd ac a'i cusanodd, gan ddweyd, "O'r pes anwyl, mae o'n dlysach na neb yn y byd." Yr oedd y ddwy weithred hyn iddo ef yn gymaint gorchest a chroesi cyfandir i deithiwr dewr, a thraddodi araeth i araethydd hyawdl; a pherthynai iddynt bwysigrwydd neillduol fel ymarferiad cyntaf y traed oedd i'w gludo drwy gymoedd a thros fynyddoedd ei wlad fel cenad i Grist, a'r tafod oedd i gyhoeddi ei anchwiliadwy olud i'w gyd-ddynion.

Tra y tyfai yr arwr-blentyn fel hyn yn nhawelwch Bronyclydwr, yr oedd yspryd y gwrthryfel yn erbyn gormes a thrahausder y Brenin yn dyfnhau ac angerddoli yn neillduol yn Ysgotland. Ail enynodd galwad y Brenin am ymostyngiad uniongyrchol, frwdfrydedd, ac eiddigedd yr Ysgotiaid dros eu rhyddid. Mae Edinburgh unwaith eto yn llawn berw a chynwrf, a llaw-nodwyd y Cyfamod Cenedlaethol yn mynwent Eglwys Grey Friars yn