nghanol cyffro tanllyd. Y fath oedd y brwdfrydedd, fel y gwelid boneddigion a phendefigion yn prysuro i wahanol gyfeiriadau ar feirch gyda chopïau o'r Cyfamod yn eu llogellau i gael eu llawnodi gan y bobl.
Yr oedd cymell yn hollol ddianghenraid, oblegyd yr oedd sel y bobl mor angerddol. fel yr ysgrifenai llawer eu henwau a'r dagrau yn treiglo i lawr eu gruddiau, a dywedir i rai archolli eu personau a thori eu henwau gyda'u gwaed eu hunain yn lle inc. Dywedodd y Brenin y buasai yn well ganddo farw na rhoddi i fyny i hawliau digywilydd a damniol y bobl." Bellach, nid oedd ond penderfynu y ddadl drwy rym arfau a darparwyd i'r gâd gyda brys. Yn mis Mai, 1639, yr oedd y Brenin yn Berwick gyda thair-mil-ar-hugain o wŷr arfog. Daeth ugain mil o'r Ysgotiaid i'w gyfarfod, o dan arweiniad y gwrol Leslie, a'r arwyddair, "Dros Goron Crist a'r Cyfamod" yn chwifio ar eu banerau. Ofnodd y brenin wneyd ymosodiad, a