Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chynygiodd amodau heddwch, y rhai a dderbyniwyd, a dychwelodd y byddinoedd adref. Ond nid oedd yr heddwch i fod ond dros fyr amser. Penderfynodd y Brenin wneyd ail gynyg i orfodi Ysgotland i ymostwng, ac ymddiriedwyd i Stafford y gorchwyl o drefnu y rhengoedd i'r gâd. Ond yr oedd chwe'-mil-ar-hugain o filwyr o dan arweiniad Leslie eisoes wedi croesi y terfynau, a gorfodwyd y Brenin o'r diwedd i roi ffordd.

Yn y dyddiau aflonydd a therfysglyd hyn yn Lloegr ac Ysgotland yr oedd Cymru yn mhell oddiwrth fwynhau llonyddwch a thawelwch. Dyoddefai William Wroth a Walter Cradoc a'u cydlafurwyr selog ddirmyg ac erlidiau tost oblegyd eu ffyddlondeb i gyhoeddi y gwirionedd. Yn mis Tachwedd, 1639, cawn Walter Cradoc yn Llanfaches yn cynorthwyo William Wroth i ffurfio yr Eglwys Gynulleidfaol gyntaf yn Nghymru. Yn y flwyddyn ganlynol cawn ef yn ymddangos o flaen pwyllgor o'r Senedd Hir i