ateb am ddilysrwydd deiseb oddiwrth weinidogion yn Nghymru am ryddid i bregethu yr Efengyl. Y pryd hyn yr oedd y tanllyd Vavasor Powel yn gwneyd ei ymddangosiad gyntaf fel comed flamllyd yn ei Sir enedigol, yr hwn pan erlidid ac a ddygid o flaen brawdlysoedd, a dystiai yn ddiofn fod yn rhaid ufuddhau i Dduw yn fwy nac i ddynion, Un tro, clôwyd ef, gyda haner cant o'i ganlynwyr ffyddlawn, mewn Eglwys gan yr erlidwyr. Diau i'r rhan fwyaf o'r amser gael ei dreulio ganddynt i weddïo, molianu, a chlodfori Duw, a gwrandaw ar eu harweinydd selog yn traethu am y deyrnas nad ydyw o'r byd hwn. Dranoeth, dygwyd hwy o flaen dau neu dri o ynadon, a haner dwsin o offeiriaid, i roddi cyfrif am eu hymddygiad. Mewn atebiad i'r cyhuddiad, dywedent nas gallent ymddwyn yn groes i argyhoeddiad eu cydwybod a Gair Duw. Ar ol condemnio eu gwaith a'u bygwth yn llym, barnwyd mai doethaf oedd eu gollwng yn rhydd.
Tudalen:Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd.djvu/41
Gwedd