pryd yr oedd y plentyn heb bechu ei hun allan o baradwys ei natur! Beth bynag am sicrwydd am nefoedd i ddod, nis gall yr hwn sydd yn cofio dyddiau dedwydd plentynrwydd am eiliad amheu nad oes nefoedd wedi bod.
Ychydig wyddai yr un bychan diniwed, yn nghanol y dylanwadau dystyw a thyner hyn, am y newyddion cyffrous oeddynt yn treiddio drwy bob cwmwd a chilfach yn yr holl wlad am y rhyfel oedd ar dori allan rhwng y Senedd a'r Brenin. Nid oedd efe ond pump oed pan gyrhaeddodd y newydd Gymru fod y frwydr gyntaf rhwng milwyr. y Senedd a'r eiddo y Brenin wedi ei hymladd ar Sabbath, Hydref 23ain, 1642, mewn lle o'r enw Edgehill. Creodd y newydd fraw a chyffro drwy yr holl wlad, a mawr oedd y siarad yn mysg amaethwyr a thyddynwyr Cymru, os deuai y byddinoedd arfog dros y terfynau, y byddent yn sicr o ysgubo ymaith eu moddion cynhaliaeth a'u hanifeiliaid, gan eu gadael i newynu mewn tlodi a thrueni. Yn