Nghymru yr oedd y mawrion a'r clerigwyr yn bleidwyr selog a nwydwyllt i'r Brenin, a gwelodd yr ychydig Anghydffurfwyr selog oeddynt yn wasgaredig yn Siroedd Dinbych, Brycheiniog, Maesyfed, Mynwy a Morganwg, nad oedd ond erlidiau ac angau yn eu haros, a phenderfynasant ffoi i Loegr am nodded hyd nes yr elai ystorm y rhyfel cartrefol heibio. Gwelid y pregethwyr, a chynifer o'u canlynwyr ag a allent ymuno a hwy, yn prysuro o wahanol gyfeiriadau i ddinas Bristol, yr hon oedd yn meddiant byddin y Senedd. Ond nid oedd iddynt. nodded yno ond dros dymhor byr, oblegyd ar y 26ain o Orphenaf rhoddwyd y lle i fyny i fyddin y Brenin. Ysbeiliwyd yr Anghydffurfwyr o'u meddianau, ac o'r braidd y diangasant gyda'u heinioes, gan ffoi ar hyd y nos i Lundain. Ond nid ffoi wnaethant i aros yn llonydd a thawel mewn neillduedd, oblegyd ymroddasant yn yspryd eu Meistr Dwyfol i bregethu yr Efengyl yn mysg y Saeson.
Ond mae hanes y dyoddefiadau a'r cyf-