Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yngderau yr aeth y rhai fethasant ddiangc i Loegr ar doriad allan y rhyfel yn galon-rwygol i'r eithaf. Ysbeiliwyd hwy o'u hanifeiliaid a'u moddion cynhaliaeth gan eu gwrthwynebwyr, a gorfodwyd eu gwragedd a'u plant i fyw mewn enbydrwydd ac eisiau hyd derfyniad y rhyfel. A dywedir i'r Tywysog Rupert, yn ei ymgyrch drwy Gymru, yru ymaith anifeiliaid y bobl, druain, anrheithio eu tai, difa eu hydoedd yn y meusydd, diosg yr oedranus a'r di- amddiffyn, llofruddio rhai mewn gwaed oer a gadael eraill yn haner marw drwy grogiad a llosgiad.

Ond yn yr amserodd echryslawn hyn nid. ymddengys fod cymaint ag un Anghydffurfiwr yn Meirionydd, a diau fod hanes ffoedigaeth pleidwyr y Senedd i Loegr, a chyfyngderau y rhai fethasant ddiangc mewn parthau eraill o'r wlad, yn achos grechwen a llawenydd yn mysg y boneddigion a'r clerigwyr yn y Sir. Na, yr oedd un Anghydffurfiwr yn y Sir,—ond eto yn ei wneuthuriad, a rhy ieuangc a thyner i'r