Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

frwydr. Y pryd hyn yr oedd Hugh bach, Bronyclydwr, yn dechreu cymeryd dyddordeb mewn ymddiddanion, yn sylwi ar arwyddion pryder ar wynebau ei rieni a'r gwasanaethyddion, ac yn tori yn ddibaid ar rediad ymgomiau yr aelwyd gyda'i gwestiynau plentynaidd. Yr oedd "Siarl", "Cromwell," "Marchfilwyr," a "Phengryniaid" yn dyfod yn eiriau cyffredin iddo ef, a chryfhai ei gywreinrwydd am gael gwybod eu hanes. Un diwrnod, dyma ef yn rhedeg i'r tŷ, yn crynu gan ddychryn, ac yn gwaeddi, "Tada, tada, mae Dic y gwas yn deud fod Cromwell yn dod drwy'r Bwlch i'n lladd ni Pwy ydi Cromwell, tada?" "Y dyn sy'n codi yn erbyn y Brenin," meddai ei dad, gan ysgwyd ei ben. "Na, 'does dim perygl, dydi o ddim yn Nghymru eto. Paid a son am dano fo, machgen i."

Mae yn anhawdd dychymygu cyffro, pryder, a chaledi y wlad yn ystod pedair blynedd y rhyfel. Gwanhai gobaith y wlad yn barhaol am lwyddiant y Brenin fel y taenid y newyddion y naill ar ol y llall am