Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhyddhawyd ef yn uniongyrchol drwy gyfryngiad boneddwr hynaws, ac o safle uchel, yr hwn yn garedig ar achlysuron blaenorol a gymerasai ei blaid. Diau y perthynai iddo urddas a mawredd personol oeddynt i fesur yn amddiffyniad iddo rhag ymosodiadau y gelynion.

Ond darfu i'r caledi ddyoddefodd, y gwrthwynebiadau a'r erlidiau yr aethai drwyddynt, a'r mynych deithiau y gorfodid ef, er dyogelwch, i'w gwneyd yn y nos, amharu ei iechyd yn fawr a phrysuro terfyniad ei yrfa lafurus, yr hyn gymerodd le ar yr 16eg o fis Gorphenaf, 1700, pan yr oedd efe yn ddeuddeng mlwydd a thriugain oed. Yn ei funydau olaf rhoddai brawf diamheuol ei fod yn ddiysgog ei hyder yn ei Dduw, a llawenychai yn yr Arglwydd Iesu Grist fel ei Graig gadarn. Pan ddywedwyd wrtho ei fod yn myned i dŷ ei Dad, efe a atebodd gyda sirioldeb nefol ar ei wedd,—"Fydd hi ddim yn dda arna i nes y bydda i yno." Dymunodd y rhai oeddynt yn bresenol wrth ei wely am