Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

air o gynghor ganddo cyn iddo eu gadael, i'r hyn yr atebodd megys un yn siarad o gyffiniau byd arall,—"Ewch at Dduw mewn gweddi."

Yr ydym wedi ymdroi cyhyd gyda'r gwr rhagorol hwn am, yn ol pob tebygolrwydd, mai efe oedd athraw cyntaf Hugh Owen. Cyfnod pwysig yn hanes pob bachgen ieuangc ydyw adeg gadael cartref am y tro cyntaf, a diau y bu anfoniad Hugh Owen i Ysgol Dolgellau yn destyn sylw a siarad y teulu am lawer o ddyddiau yn flaenorol, a mawr yn ddiau oedd paratoadau ei fam, ar gyfer ei gychwyn, drwy weu hosanau a threfnu ei ddillad. Y diwrnod cyn iddo gychwyn, mae hi gyda gofal yn pacio ei focs, pryd mae llawer o wahanol bethau yn gwibio drwy ei meddwl, ambell i ochenaid ddystaw yn diangc o'i mhynwes, yn cael ei dilyn gan y deigryn gloyw yn disgyn o'i llygad ar y dillad yn y bocs. Mae ei dad yn gofalu am roddi i mewn y llyfrau a dybiai fyddent o wasanaeth iddo yn yr ysgol.

Dranoeth, mae ei dad ac yntau yn