Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd.djvu/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD.

ENILLODD duwiolfrydedd, sel a llafur diflino tri o arwyr ymneillduol Cymru iddynt y teitl anrhydeddus o Apostolion, sef Hugh Owen, Bronyclydwr, Apostol y Gogledd, Stephen Hughes, Meidrin, Sir Gaerfyrddin, Apostol y Deheudir, a William Wroth, Llanfaches, Apostol Cymru. Nid oedd y blaenaf, a'r hwn y mae a fynom ni, yn ol i'r ddau olaf mewn un gras na dawu apostolaidd. Cesglais ynghyd gyda manylder bob hanes a chofnodiad allwn gael am dano, a daethant ynghyd i ffurf y Cofiant, yn gyffelyb i'r esgyrn sychion yn y dyffryn welodd y prophwyd Execiel, mewn gweledigaeth. Os gwrthddadleuir nad ydyw yr oll o'r portreadau hanesyddol yn llythyrenol gywir, megys ei hanes yn Rhydychain, y dysgrifiad o'r oedfaon. yn Mhant Phylip a Dolgellau, &c.,[1] fy atebiad ydyw fod dychymyg mor anhebgorol i'r bywgraphydd. i'r arlunydd a'r bardd, ac nas gall portreadau dychymyg bur fod yn anghywir i natur a hanes. Edrychir ar y gwrthrych anfarwol yn ngoleuni ei amgylchfyd; yn ei berthynas a'i deulu, ei genedl,

a helyntion ei amserau, heb yr hyn y mae yn

  1. Mae'r adrannau am blentyndod ac addysg ysgol a phrifysgol y gwrthrych a'i gyfeillgarwch gyda'i "ewythr" (cefnder ei fam mewn gwirionedd), Dr John Owen, yn ffuglen pur heb unrhyw sail hanesyddol. Gweler Jenkins, R. T., OWEN, JOHN (1616 - 1683), diwinydd Piwritanaidd (Annibynnwr). Y Bywgraffiadur Cymreig.