Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd.djvu/8

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amhosibl ei ddeall a gwerthfawrogi ei wasanaeth anmhrisiadwy. Gwahaner dyn yn hollol oddiwrth eraill a phob dylanwad oddi allan iddo ei hun, ac nis gall fod iddo na chymeriad na hanes. Mae dyn yn byw i'r graddau y mae efe yn byw bywyd eraill, ac mae holl fywyd Hugh Owen yn dystiolaeth ardderchog i'r gwirionedd pwysig nas gall un dyn fod yn wir fawr iddo ei hun yn unig.

Z. MATHER.

ABERMAW,
Mehefin 27, 1899.