Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bethau o berthynas i'r gorphenol a'r dyfodol yn gwibio drwy ei feddwl. Mae helyntion ei yrfa golegawl yn adgyfodi y naill ar ol y llall yn fyw o'i flaen!

Gallwn fyned am foment y tu ol i'r llen i syllu ar wyneb hawddgar Hugh Owen pan ar ei liniau o flaen ei focs yn pacio ei lyfrau. Mae pelydriadau o foddhad yn chwareu ar ei wedd pan yn taflu i mewn ei ramadegau Hebraeg, Groeg a Lladin wrth feddwl am ei ymdrechion llwyddianus i orchfygu eu cynwysiad. Dywedai yn chwareus, "Ha! ha! Alpha, Beta, Gamma, Delta." Pa beth ydyw y llyfrau acw mae efe y naill ar ol y llall yn eu dal yn ei law, yn eu hagor, yn darllen llinell neu ddwy, ac yna yn eu gosod yn ofalus yn y bocs? Ah! ni a welwn mai llyfrau gyhoeddwyd gan ei ewythr ydynt, y rhai dderbyniodd efe yn anrheg oddiwrtho. Gwelwn mai teitl yr un sydd yn ei law yn bresenol ydyw "Dwyfol darddiad awdurdod, goleuni hunan-brofedig a nerth yr Ysgrythyrau." Mae yspryd yr awdwr dysgedig a duwiolfrydig gydag ef yn yr