ardal a'i wlad yn gwneyd argraff dyfnach ar ei feddwl yn barhaus, a theimlai fwy- fwy ei rwymedigaeth i ddysgu, rhybuddio a chyfarwyddo ei gyd-ddynion at Waredwr. Nid oedd y pryd hwn gymaint ag un pregethwr ymneillduol yn yr holl Sir, ac yr oedd yn gofyn gwroldeb a phenderfyniad mawr i dori allan fel y gwnaeth Hugh Owen. Traddododd ei bregeth gyntaf yn ei dŷ ei hun i nifer fach o dyddynwyr a llafurwyr tlodion, y rhai wahoddwyd i'r oedfa. Nid oedd nag Eglwys i'w gyfodi, na chynhadledd i'w gymeradwyo, ac eto pwy feiddiai am eiliad amheu ei anfoniad Dwyfol i'r gwaith? Ond gan y credai mewn gwneyd pob peth yn weddaidd ac mewn trefn, efe a aeth i Wrecsam i gael ei ordeinio yn henuriad athrawol yr Eglwys yno. Ac y mae yn naturiol i ni dybied mai gan ei hen athraw, John Evans, y neillduwyd ef i'w waith pwysig. Gwelwn y gŵr duwiolfrydig ac urddasol yn ei de ei hun, lle yr oedd nifer o ffyddloniaid wedi cyfarfod, yn gosod ei ddwylaw ar ben y
Tudalen:Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd.djvu/91
Gwedd