Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyn sydd yn fwy tebyg, yr oedd fy mam wedi eu dysgu i mi yn y cyfnod nad oes genyf un cof am dano. Yr wyf yn sicr mai Evan Jones, hwsmon Gwernyffynnon, oedd fy athraw cyntaf; ac yr wyf yr un mor sier mai allan o lyfr bychan, tebyg i'r "Rhan Gyntaf a ddefnyddir yn ein hysgolion yn y dyddiau hyn, yr oeddwn yn cael gwersi ganddo. Yr hyn sydd yn peri i mi fod mor sier ydyw hyn: mai a b, ab, y galwn i Evan Jones wrth fy mam, am mai hono oedd y wers--a b, ab, e b, eb, o b, ob. &c. Hen ŵr clên oedd Evan Jones, yn gwisgo ar y Sabboth gôb las â botymau gloewon arni, a chlôs a leggins llwydion. Yr oedd chwech neu saith o honom yn ei ddosbarth; a dull Evan o gyfranu addysg oedd cymeryd un o honom ar ei lîn a rhoi gwers iddo tra y byddai y lleill yn chwareu. Wedi iddo roddi gwers i bob un, teimlai Evan ei fod wedi gwneyd ei ddyledswydd, ac yna cymerai gyntyn. Tra y byddai Evan yn cymeryd nap, a'i ên wedi suddo yn ddwfn i'w wasgod, a choler fawr ei gôb las ymron yn lefel hefo'i goryn, nid unwaith na dengwaith y cyfrifais yr holl fotymau oedd ar ei ddillad. Yr wyf yn cofio y fynyd hon eu nifer. Pe cymerwn fy llw ar rywbeth, cymerwn ef ar hyn, mai saith o fotymau oedd ar bob leggen, pump ar ddau benglîn ei glôs, pedwar ar bob ochr i'w gôb a dau tu ol, a saith ar ei wasgod. Yr wyf yn sicr o'u nifer, canys cyfrifais hwynt gannoedd o weithiau tra yr oedd Evan yn cysgu. Perchenogai Evan oriawr fawr-mor fawr ymron â'r hyn a elwir yn ein dyddiau ni yn timepiece, yr hon y gadwai efe yn mhoced ei glôs. Un tro gofynais i fy mam paham na wisgai Evan Jones ei watch yn mhoced y wasgod fel y byddai gŵr y Plâs yn gwneyd? Atebai hithau, ei fod yn bechod mawr gwisgo watch yn mhoced y wasgod ac nad oedd neb yn gwneyd hyny ond y rhai oedd heb "deimio'r cortyn." Nid oeddwn yn deall ar y pryd beth oedd ystyr "teimlo'r cortyn;" ond gwyddwn ei fod yn rhywbeth mawr ac anhebgorol er gwneyd i fyny ddyn da; ac mor hoff oeddwn io Evan Jones fel nad allaf yn awr ddesgrifio fy moddhâd y pryd hwnw mai yn mhoced ei glos y gwisgai efe ei watch ac nid yn y wasgod. Yn gysylltiedig wrth watch Evan yr oedd riban ddu, ac wrth hono ddwy gragen wên, hen goin, a sêl goch.

Teimlem ni, y bechgyn oedd yn ei ddosbarth, awydd mawr am gael