Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ystori oddiwrth fy mam. Yr unig beth a ddywedodd hi wrthyf oedd, "Wel, cawn weled fory." Bu yn un a'i gair; cafodd hi weled, a chefais innau deimlo.

Nis gwn i sicrwydd a ddygwyd achos Evan Jones, Gwernyffynnon, o flaen y cyfarfod athrawon; ond y mae genyf bob lle i gredu ddarfod i hynny gymeryd lle; oblegid byth wedi hyn pan fyddai Evan yn gosod ei hun i gymeryd cyntyn, rhoddai siars benodol arnom i fod ar y look-out, ac i ofalu am ei ddeffroi pan ddeuai Abel Hughes i'r cyffiniau, i'r hyn y buom ffyddlawn. Yr wyf yn cofio yn dda ein bod fel dosbarth yn edrych ar waith Abel Hughes yn gwarafun i Evan gael cyntyn, ar ol iddo roddi gwers i bob un, fel gorthrwm a thrahausder anfaddeuol.

Pe buaswn yn argraffu yr hanes hwn, dichon y dywedasai rhywun, "Gymaint rhagorach ydyw trefniadau ac athrawon yr Ysgol Sabbothol yn awr o'u cymharu â'r hyn oeddynt y pryd hyny." Hwyrach hyny. Nid oedd Evan Jones ond un o lawer cyffelyb iddo. A chymeryd ei rinweddau ynghyd a'i ddiffygion i'r cyfrif, yr oedd Evan cystal athraw â'r rhelyw o honynt yn y dyddiau hyny. Mae genyf fi barch dauddyblyg iddo, o herwydd o dan ei aden ef y dysgais ddarllen, er iddo farw pan oeddwn yn lled ieuanc. Mae genyf gof da am amryw o ddywediadau fy mam pan fyddai hi yn son am Evan Jones, megys y rhai canlynol :-"Gwr ydyw Evan a gwreiddyn y mater ganddo." "Mae Evan Gwernyffynnon yn fwy ar ei liniau nag ar ei sefyll." "Gŵyr Evan yn dda beth ydyw teimlo'r cortyn." "Dyn y dirgel ydyw Evan Jones." "Pe buasai gan Evan gymaint o ddysg ac arian ag sydd ganddo o ras, buasai yn Ustus Heddwch er ys llawer dydd, ac ni buasai gŵr y Plas ond cardotyn yn ei ymyl." Yr oedd yr ymadroddion hyn, a llawer o rai cyffelyb o'r eiddo fy mam, fel Lladin i mi ar y pryd, ac ymhen blynyddau y daethum i'w deall. Da genyf droi fy meddwl yn ol at yr adeg pan oeddwn yn astudio classics fy mam! Fel yr awgrymais yn barod, y mae genyf bob lle i gredu fod Evan Jones, er ei holl ddiffygion, yn gymeriad tryloew, ac yn un oedd wedi profi pethau mawrion crefydd. Pan oeddwn yn ei ddosbarth, edrychwn ar ei waith yn cysgu ran o'r moddion yn fwy fel rhinwedd ynddo na dim arall, am ei fod yn