hi mai ein hamcan yn myned mor gynnar oedd cael chware ymguddio yn llofft y capel. Yr oedd Wil wedi cael allan rywfodd fod Abel yn dechre y cyfarfod yn ol ei watch, ac yn diweddu yn ol cloc y capel. Un noswaith, pan oedd pawb o honom yn eu lle yn dysgwyl am Abel i mewn, dywedodd Wil yr elai ef i'r gallery i symud bys y cloc hanner awr ymlaen; ac ar y gair efe a aeth. Yr oeddym oll yn bryderus iawn rhag i Abel ddyfod i mewn. Pan oedd Wil wedi cyrhaedd sêt y cloc, ac ar fedr rhoddi ei law ar y bys, agorwyd drws y capel, a dacw Abel yn gwneyd ei ymddangosiad. Crwcydodd Wil y fynyd hono. Curai calon pawb o honom, oblegid nid dyn i gellwair âg ef oedd Abel Hughes. Tra yr oedd Abel yn gweddïo wrth ddechre y cyfarfod, ac wedi cau ei lygaid yn dýn, achubai pawb o honom y cyfleusdra i edrych tua sêdd y cloc. Synwyd ni gan eofndra Wil Bryan, oblegid gwelem ef yn symud bys y cloc, ac yna yn gorphwys yn hamddenol ar ei benelinoedd ar ffrynt y gallery, gan roddi winc ar hwn a'r llall. Wedi hyn, gwelem ef yn chwilota ei logellau am friwsion, ac yn ei gollwng i lawr ar ben yr hen Abel. O herwydd fod Abel wedi ymgolli yn y weddi, neu ynte o herwydd ei fod yn gwisgo cap melfed, nid ymddangosai ei fod yn teimlo dim oddiwrth y briwsion.
Nid oedd John Joseph yn bresennol y noswaith hono, ac ni chafwyd hwyl o gwbl ar y cyfarfod. Anmherffaith iawn yr adroddem ein hadnodau, gan fod ein meddyliau yn llofft y capel gyda Wil Bryan, pen yr hwn oedd yn dyfod i'r golwg yn awr ac yn y man. Bob tro y caem gipolwg ar ei wyneb, yr oedd yn gwenu ac yn ymddangos yn mwynhau ei hun yn brâf. Yr wyf yn meddwl mai efe oedd yr unig un nad oedd ei galon yn curo gan ofn. Cawsom gerydd lawer gwaith gan Abel Hughes am adrodd ein hadnodau mor wael, ac am ein bod yn cyfeirio ein llygaid yn barhâus at y cloc, fel pe buasem ar frys am gael myned adref. Ychydig a wyddai efe mai nid ar y cloc yr edrychem, ond ar dop gwallt Wil Bryan. Er fod ein gwynebau yn ddifaifol, blinodd Abel yn ceisio cael ein meddyliau at yr adnodau, ac edrychodd ar y cloc, ac arwyddodd syndod fod yr amser wedi cerdded mor bell. Ar yr un fynyd agorwyd drws y capel, a daeth Marged Ellis, gwraig tŷ'r capel, i mewn. Dechreuodd hi gwyno yn dost wrth Abel ein bod ni y plant yn dyfod i'r cyfarfod cyn yr amser